Criw Niwbwrch Cyf
www.niwbwrch.org

Ionawr 2007


Annwyl Breswylydd
Eglwys Bach – y diweddaraf am y prosiect adeiladu

Dros ddwy flynedd yn ôl, llwyddodd cais Criw Niwbwrch am arian gan y Cynulliad Cenedlaethol a’r UE i adnewyddu Eglwys Bach a chreu Canolfan at ddefnydd y gymuned, ond yn sgîl hynny, daeth llwyth o fiwrocratiaeth, dryswch ac oedi. Ond bellach, mae’r gwaith adnewyddu ar ei ffordd, felly diolch am eich amynedd dros y ddwy flynedd diwethaf.

Mae Criw Niwbwrch wedi darparu gweithgareddau hamdden i blant a phobl ifanc sy’n defnyddio grantiau mynediad Cymorth i Chwarae a bydd yn dal i wneud hynny. Pan fydd y Ganolfan ar agor, bydd amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael i bob aelod o’r gymuned a gobeithio y gwnewch chwithau gymryd rhan.

Fel y gallwch ddychmygu, mae angen cryn dipyn o arian eto i gwblhau'r prosiect. Felly, er mwyn helpu gyda'r codi arian, rydym yn cynnig cyfle i chi brynu rhan fach o'r adeilad ei hun!

I roi rhodd o £5 neu fwy, gallwch “GYFRANNU LLECHEN” at y to! Fe gewch dystysgrif i ddangos sut y gwariwyd eich rhodd a hefyd, byddwch yn dod yn aelod yn 'Gyfeillion Criw Niwbwrch’ sy'n golygu y cewch chi 10% o ostyngiad wrth logi’r neuadd neu ystafell gyfarfod yn Y Ganolfan pan fydd ar agor. Bydd eich enw hefyd yn cael ei roi yn y 'Llyfr Rhoddion'. Mae’n bosib ei bod yn well gennych wneud cyfraniad heb brynu llechen, ac os felly, bydd eich enw'n mynd i'r 'Llyfr Rhoddion’ hefyd ac fe gewch ostyngiad o 10%.

Gobeithio eich bod yn teimlo y gallwch ddal i gefnogi’r prosiect pwysig hwn i’r pentref drwy gyfrannu yn y ffordd unigryw hon a gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen fach isod os oes gennych ddiddordeb a’i dychwelyd i Swyddfa’r Post.

Yr eiddoch yn gywir

Pwyllgor Criw Niwbwrch
……………………………………………………………………………………………………………………………..

Cyfeiriad Llofnodwyd:.................................................
Printiwch eich enw .........................................................


*Byddem/Byddwn/Ni fyddem/Ni fyddwn yn hoffi ‘Rhoi llechen’ i Griw Niwbwrch Cyf. {
*Hoffwn/Hoffem, roi cyfraniad heb brynu llechen. {

PEIDIWCH AG ANFON ARIAN EFO’R FFURFLEN HON.
Pan fyddwch chi’n dychwelyd eich ffurflen i Swyddfa’r Post, bydd aelod o’r pwyllgor yn dod i'ch gweld gyda'ch tystysgrif, eich rhif aelodaeth unigryw a derbynneb am eich taliad. Mae arian parod yn dderbyniol, ac os ydych chi’n talu efo siec, gwnewch hi’n daladwy i ‘Criw Niwbwrch Cyf’

* Dilëwch fel y bo'n berthnasol