Home
Renovation
Activities
Fundraising
Events
Village
Criw Niwbwrch Who we are

(link to local attractions)

Croeso i niwbwrch.org

Adfer Eglwys Cenhadaeth St Thomas


Datblygir y wefan hon dros yr wythnosau nesaf i gynnwys manylion am y gwaith o adnewyddu’r Ganolfan Gymunedol, gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc, codi arian a hyrwyddo Niwbwrch.

Mae Niwbwrchyn bentref yn ward Rhosyr yn ne orllewin Ynys Môn.

Mae gan yr ardal botensial amgylcheddol aruthrol, gyda’i chysylltiadau â’r llwybr arfordirol a’r llwybrau gwledig hardd yng nghyffiniau Cwningar Niwbwrch a Choedwig Niwbwrch. Mae gan yr ardal statws SDdGA triphlyg, ac mae’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’n ardal sy’n gyfoeth o hanes a chwedlau, gyda’i chyswllt â Thywysogion Gwynedd ac Ynys Llanddwyn a stori Santes Dwynwen.

Ar ôl ymgynghori helaeth gyda’r gymuned, mynegwyd pryder gan fwyafrif y bobl leol nad oes unman gan bobl ifanc i fynd iddo i gyfarfod, ac nid oes unrhyw weithgareddau lleol ar gyfer trigolion y gymuned. Ymatebwyd i’r alwad gref am adeilad i ddarparu amrywiaeth helaeth o gyfleusterau ar gyfer pob oed, adran a grwp yn y gymuned gan grwp o drigolion Niwbwrch a sefydlodd

Criw Niwbwrch Cyf.

Mae ‘Criw Niwbwrch Cyf’ yn gwmni sy’n eiddo i’r gymuned a nhw fydd yn rheoli ac yn darparu’r adnoddau ar gyfer y cyfleusterau hyn.

Bydd y cwmni’n canolbwyntio ar adfer hen adeilad cymunedol sy’n segur (Neuadd Eglwys Cenhadaeth St Thomas – a elwir hefyd yn Eglwys Bach) i fod yn fan cyfarfod ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pob sector o’r gymuned.

 

(top)